Datganiad a Chyhoeddiad Busnes
Dydd Mawrth 2 Gorffennaf a dydd Mercher 3 Gorffennaf 2013
Dydd Mawrth 9 Gorffennaf a dydd Mercher 10 Gorffennaf 2013
Dydd Mawrth 16 Gorffennaf a dydd Mercher 17 Gorffennaf 2013
***********************************************************************
Dydd Mawrth 2 Gorffennaf 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Cwestiynau i'r Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cyflwyno Bil Addysg (Cymru) (60 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau: Cymwysterau yng Nghymru (30 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.95 i drin Bil a gaiff ei alw’n y Bil Sector Amaethyddiaeth (Cymru) fel Bil Brys y Llywodraeth (15 munud)
· Cynnig o dan Reol Sefydlog 26.98(ii) i gytuno ar amserlen ar gyfer y Bil a gaiff ei alw’n Fil y Sector Amaethyddol (Cymru) (5 munud)
· Gorchymyn Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol 2003 (Diwygiadau i Ddeddf Addysg 1996) (Cymru) 2013 (15 munud)
· Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) (120 munud)
“Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Gweinidog gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os derbynnir y cynnig:
Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo'r Bil Trawsblannu Dynol (Cymru) o dan Reol Sefydlog 26.47.”
Dydd Mercher 3 Gorffennaf 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Addysg a Sgiliau (45 munud)
· Cwestiynau i Weinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Drafnidiaeth Gyhoeddus Integredig yng Nghymru (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Menter a Busnes ar Horizon 2020: Cyfnod 2 (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Geidwadwyr Cymru (60 munud)
· Dadl Fer – Nick Ramsay (Mynwy) (30 munud)
Dydd Mawrth 9 Gorffennaf 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Llywodraeth Leol a Busnes y Llywodraeth: Cymunedau Mwy Diogel - Y wybodaeth ddiweddaraf am Bennod 7 o'r Rhaglen Lywodraethu (30 munud)
· Datganiad gan y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd: Gadael ceffylau a merlod a phori anghyfreithlon - Ymateb i'r ymgynghoriad a chamau nesaf (30 munud)
Cynnig o dan Reol Sefydlog 12.24 i drafod y ddwy eitem ganlynol gyda'i gilydd ond gyda phleidleisiau ar wahân (15 munud):
· Gorchymyn Deddf Tai ac Adfywio 2008 (Diwygiadau Canlyniadol i Ddeddf Cartrefi Symudol 1983 (Cymru) 2013
· Gorchymyn Deddf Cartrefi Symudol 1983 (Diwygiad i Atodlen 1 a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2013
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Gofal (15 munud)
· Dadl: Y GIG yng Nghymru - Dysgu o Ymchwiliad Francis (60 munud)
Dydd Mercher 10 Gorffennaf 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Tai ac Adfywio (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl gan Aelodau Unigol o dan Reol Sefydlog 11.21(iv) (60 munud)
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Reoliadau Cynlluniau Gostyngiadau'r Dreth Gyngor (60 munud)
· Dadl Cyfnod 3 o dan Reol Sefydlog 26.44 ar y Bil Cartrefi Symudol (Cymru) (60 munud)
“Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff yr Aelod sy'n gyfrifol gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47:
Cynnig Cyfnod 4 o dan Reol Sefydlog 26.47 i gymeradwyo Bil Cartrefi Symudol (Cymru) (5 munud)”
· Dadl Fer - Peter Black (Gorllewin De Cymru) (30 munud)
Dydd Mawrth 16 Gorffennaf 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau Llafar y Cynulliad i’r Prif Weinidog (45 munud)
· Datganiad a Chyhoeddiad Busnes (30 munud)
· Rheoliadau Credyd Cynhwysol (Darpariaethau Canlyniadol) (Gofal Plant, Tai a Thrafnidiaeth (Cymru) 2013 (15 munud)
· Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ar y Bil Archwilio ac Atebolrwydd Lleol (15 munud)
· Dadl: Y Gyllideb Atodol Gyntaf ar gyfer 2013-14 (30 munud)
Dydd Mercher 17 Gorffennaf 2013
Busnes y Llywodraeth
· Cwestiynau i’r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Cwnsler Cyffredinol (45 munud)
· Cwestiynau i’r Gweinidog Cymunedau a Threchu Tlodi (45 munud)
Busnes y Cynulliad
· Dadl ar adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar yr Ymchwiliad i Ddeddfu a’r Eglwys yng Nghymru (60 munud)
· Cynnig i gymeradwyo Cynllun Ieithoedd Swyddogol Comisiwn y Cynulliad (60 munud)
· Amser a neilltuwyd i Blaid Cymru (60 munud)
· Dadl fer - Ken Skates (De Clwyd) (30 munud)